Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 9 Gorffennaf 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.31 - 11.26 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_200000_09_07_2014&t=0&l=cy |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Ann Jones AC (Cadeirydd) Keith Davies AC Suzy Davies AC Bethan Jenkins AC Lynne Neagle AC David Rees AC Aled Roberts AC Simon Thomas AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Huw Lewis AC, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau Grace Martins, Uwch Gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru Marcus Richards, Llywodraeth Cymru Neil Surman, Llywodraeth Cymru Adam Turbervill, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Gareth Rogers (Ail Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Anne Thomas (Ymchwilydd) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns; nid oedd neb yn dirprwyo ar ei rhan.
Diolchodd y Cadeirydd i Rebecca Evans am ei gwaith caled yn ystod ei hamser fel aelod o'r Pwyllgor.
2 Y Bil Addysg Uwch (Cymru) - Sesiwn dystiolaeth 7
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil, sef y Gweinidog Addysg a Sgiliau, a'i swyddogion.
Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar y materion a ganlyn:
Nid
yw'r Bil, fel y'i drafftiwyd, yn cynnwys gofyniad i Weinidogion
Cymru nodi bod yr holl reoliadau penodedig yn rhai sydd yn 'rhaid'
eu dilyn. Felly, a all y Gweinidog gadarnhau bod gan y Bil
ddarpariaeth ddeddfwriaethol ddigonol i alluogi Cyngor Cyllido
Addysg Uwch Cymru i ymgymryd â phob un o'i swyddogaethau yn
effeithiol a rhoi holl fwriadau polisi Llywodraeth Cymru ar
waith?
Eglurhad ar y pwyntiau a godwyd yn nhystiolaeth Addysg Uwch Cymru ynghylch y pŵer i wrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad;
Diffiniad o'r hyn y mae'r term 'darparu' yn ei olygu yn adran 17, ac eglurhad ar y rhaglenni sy'n cael eu dilysu dramor: cyrsiau sy'n cael eu dilysu gan sefydliad o Gymru / cyrsiau sy'n cael eu dilysu gan sefydliad tramor sydd y tu allan i Gymru ond nid yw o reidrwydd yn sefydliad sydd wedi'i freinio.
3 Papurau i’w nodi
Nodwyd y papurau.
3.1 Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn dilyn y cyfarfod ar 5 Mehefin 2014
3.2 Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid
3.3 Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
4 Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor
Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith.